Cyllid blynyddol clybiau proffesiynol y dynion
Dyna ddwy ran o dair o enillion URC cyn treth a didyniadau eraill - a ddyrannwyd i glybiau proffesiynol y dynion.
GÊM BROFFESIYNOL Y DYNION
Mae rygbi proffesiynol yn wynebu pwysau masnachol difrifol ledled y byd. Fel gwlad rygbi fach, mae Cymru'n teimlo'r pwysau hynny'n fwy dwys ac mae ganddi lai o le ariannol i ymateb. Er gwaethaf yr heriau, mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymrwymo i gryfhau'r gêm ar lawr gwlad a gwella perfformiad ar lefel genedlaethol ac ar lefel y clybiau.
Pam newid?
Mae rygbi Cymru wedi bod ar groesffordd – ar y cae, yn ariannol ac yn strwythurol – ers llawer rhy hir. Mae'n amlwg nad yw system elît y genedl yn cyflawni ei nodau mwyach ac nad yw'n gynaliadwy.
Mae'r heriau sy'n wynebu gêm broffesiynol Cymru yn rhai lleol a byd-eang, ac maent wedi bod yn cronni ers blynyddoedd lawer.
Mae refeniw darlledu a masnachol dan bwysau, mae costau'n parhau i godi ac mae'r lefel ofynnol o ymrwymiad ariannol gan fuddsoddwyr preifat wedi cynyddu'n sylweddol.
Heb weithredu, disgwylir i'r bwlch rhwng timau Cymru a'u cystadleuwyr ehangu – o ran cyllid a pherfformiad fel ei gilydd.
Dyna ddwy ran o dair o enillion URC cyn treth a didyniadau eraill - a ddyrannwyd i glybiau proffesiynol y dynion.
Sefydlu tîm adnabod talent a mewnwelediad newydd er mwyn dilyn cynnydd ein chwaraewyr addawol. Hyfforddwyr arbenigol i weithio'n uniongyrchol gyda'n clybiau proffesiynol a'r canolfannau datblygu chwaraewyr ar gyfer y dynion a'r menywod ar draws y wlad.
Mae buddsoddiad uniongyrchol a chymorth pwrpasol yn helpu i gryfhau clybiau rygbi cymunedol a'u cymunedau lleol, gan sicrhau amgylcheddau croesawgar a chynhwysol i bob chwaraewr, teulu, gwirfoddolwr a chefnogwr.
Cynghrair lled-broffesiynol – wedi'i wreiddio mewn clybiau hanesyddol a chymunedau – sy’n darparu llwyfan hanfodol ar gyfer datblygu talent elît.
BLE MAE'N MYND
Dydy symud i fodeltri chlwb ddim yn addo llwyddiant, ond mae'r buddsoddiad ychwanegol yn y llwybrau datblygu sy'n deillio o'r newidiadau yn gwella'r tebygolrwydd o hynny. Caiff llwyddiant ei fesur yn ôl gwelliannau parhaus ym mherfformiad timau cenedlaethol y dynion a'r menywod, cystadleurwydd cryfach ymhlith clybiau, cadw chwaraewyr yn well, twf yn y chwaraewyr sy'n gymwys i chwarae dros Gymru, dilyniant cryfach yn y llwybrau datblygu a gêm gymunedol fwy gwydn.
Yn 2025, cytunodd y pedwar clwb proffesiynol presennol – Rygbi Caerdydd, Clwb Rygbi y Dreigiau, y Gweilch a’r Scarlets – ar egwyddorion cytundeb newydd gydag URC a oedd yn canolbwyntio ar gyllid a rygbi.
Mae’r cytundeb yn cynyddu cydweithio ar draws y system rygbi elît gyfan ac yn cryfhau’r berthynas waith rhwng URC a thimau proffesiynol y dynion. Mae hefyd yn eu helpu i sicrhau sefydlogrwydd ariannol hyd at fis Mehefin 2028.

Mae gan URC tua £20m y flwyddyn i’w fuddsoddi yng ngêm broffesiynol y dynion. Am y ddwy flynedd nesaf, bydd URC yn ariannu’r pedwar tîm presennol gyda £6.5m y flwyddyn – swm sy’n anghynaliadwy ar ôl 2028.
Byddai £20m o dymor 2028/29 yn golygu £5m yr un mewn model pedwar clwb.
Ar gyfer y model tri chlwb newydd, mae hyn yn cyfateb i £6.7m i bob tîm. Heb y newid hwn, mae’n annhebygol y bydd gennym ddigon o gyllid i greu’r llwybr chwaraewyr newydd y mae system elît Cymru ei angen ar frys.

Ar hyn o bryd, dydy ein system elît ddim yn cynhyrchu digon o dalent sy’n gymwys i chwarae dros Gymru i gynnal pedwar tîm yn gystadleuol.
Mae gwasgaru ein chwaraewyr gorau ar draws pedair carfan yn golygu llai o funudau chwarae o safon, llai o ddyfnder yn y garfan a llai o gydlyniad tîm.
Mae canolbwyntio’r talent mewn llai o dimau yn creu carfannau cryfach a mwy cystadleuol, a safon uwch o rygbi bob wythnos sy’n bwydo’n uniongyrchol i’n timau cenedlaethol.

The new Community Investment Model is a fundamental shift in how the WRU invests in the grassroots game.
From the start of the 2026/27 season clubs have been awarded Platinum, Gold, Silver or Bronze status based not only for what they achieve on the pitch, but also for the strength, sustainability and governance they demonstrate off it.
More than 65% of community clubs have achieved the highest possible ‘Platinum’ accreditation rating.
Rather than funding based primarily on player participation, the framework recognises clubs that demonstrate excellence across areas including governance, business planning, safeguarding, inclusion, volunteer development, facilities and player pathways. The aim being to create stronger, more resilient clubs which play an essential role at the heart of their communities.

The WRU offer a range of educational courses and learning opportunities that enable community clubs to increase their skillset and help create safe and positive playing environments.
Our coaching pathway is built to be adaptive and supportive, matching coaching education to the specific needs of the players, from mini and juniors right up to the adult game.
We are also responsible for recruiting, developing and producing referees and match officials to officiate games and matches at all levels within Welsh rugby and throughout the world.
The WRU support community rugby clubs with a series of free training resources which all help create safe and positive playing environments. All training is delivered by highly qualified and experienced WRU accredited educators, these include first aid, medical awareness, anti-doping and safeguarding.
From the start of the 2026/27 season, the WRU has introduced a new proactive reporting system. This is supporting community clubs in reporting and managing incidents and injuries on a game by game basis.
The new Proactive app gives clubs with a simple way to log and report incidents and injuries, track suspected concussions and record hazards through an easy-to-use reporting platform.
The system is free to all clubs and allows players, coaches and parents to track return to play protocols and support player welfare.

WRU organises community competitions spanning 34 men's and women's National Leagues and almost 4000 individual fixtures.
These provides meaningful fixtures on a weekly basis for almost 15,000 registered senior players at more than 270 WRU member clubs, the length and breadth of the country.
In addition to this, there are 10 senior National Cup competitions with the finals being held in Cardiff at the Road to the Finals events which attract thousands of supporters each year.
Our regional community staff also oversee hundreds of respective league and cup competitions across all areas of the country - providing playing opportunities for thousands of young people agred between 12 and 18.
Our new Rygbi Cymru app launched at the start of September 2026 is allowing volunteers, players and supporters a unique opportunity to track the more than 12,000 rugby matches - from Under 12s through to Super Rygbi Cymru - that will take place in every corner of the country across the 2026/27 season.


Our Women's National Academy and Player Development Centres are linked directly to the professional club system and into the national squads.
Our two women's professional teams - Gwalia Lightening and Brython Thunder - have already proven themselves as breeding grounds for success, accelerating the playing careers of a number of internationals.
Both teams play in the Celtic Challenge - our main women’s league competing - against teams from Ireland and Scotland. These cross-border opportunities are continuing to give Welsh players the exposure they need to thrive in a high-performance environment.
A new senior domestic competition will be created to sit beneath the Celtic Challenge, providing a vital platform for aspiring players and a stronger connection to the pathway.
Mae Academi Genedlaethol y Dynion wrth galon y system newydd hon – fydd yn ein galluogi i feithrin chwaraewyr mwyaf addawol ein gwlad mewn un cynllun addas a thrylwyr.
Nid copïo cynlluniau gwledydd eraill yw’r ateb – ond creu ein llwybr datblygu unigryw ein Hunain sydd wedi ei adeiladu ar sail ein cryfderau fel cenedl rygbi.
Bydd cydweithio gyda’r tair canolfan hyfforddi rhanbarthol yn sicrhau y bydd ein chwaraewyr addawol yn derbyn yr hyfforddiant gorau posibl, cefnogaeth perfformio a’r addysg angenrheidiol i’w paratoi ar gyfer rygbi proffesiynol a rhyngwladol. Bydd ein Hacademi Cenedlaethol ar gyfer y dynion yn gofalu am 80 o’n chwaraewyr mwyaf addawol rhwng 18-23 oed tra bydd darpariaeth rhan amser ar gael i chwaraewyr iau.
Bydd Academi Genedlaetho ar gyfer y Menywod – ar gyfer yr un oedrannau – hefyd yn cael ei sefydlu.
O dan Academi Genedlaethol y Dynion, bydd 12 Canolfan Datblygu Chwaraewyr yn cael eu sefydlu. Bydd y rhain yn adnabod ac yn meithrin chwaraewyr rhwng 14 a 18 oed, gan sicrhau bod pob chwaraewr talentog, waeth ble maen nhw’n byw yng Nghymru, yn gallu dilyn llwybr datblygu clir gyda chefnogaeth briodol. Bydd y llwybr datblygu newydd yn creu cysylltiadau cryfach rhwng clybiau cymunedol, ysgolion a phrifysgolion a’r system berfformio genedlaethol.
Mae lleoliadau’r Canolfannau Datblygu Chwaraewyr yn cael eu pennu ar hyn o bryd, gyda pha mor agos ydynt at glybiau Super Rygbi Cymru yn ystyriaeth ychwanegol. Y nod a’r gobaith yw sicrhau darpariaeth ar draws pob rhanbarth o Gymru, gyda chyfleoedd hyfforddi perfformiad uchel o fewn awr o deithio i bawb.
Bydd chwaraewyr talentog ar lwybr datblygu’r merched a’r menywod yn cael eu cefnogi gan dair Canolfan Datblygu Chwaraewyr sydd eisoes yn bodoli ym Mae Colwyn, Abertawe a Chaerdydd. Caiff y rhain eu cefnogi gan 11 o safleoedd eraill mewn gwahanol leoliadau fydd yn cenogi’r system, a 43 o hybiau rygbi i ferched, sydd i gyd wedi’u lleoli mewn clybiau cymunedol.
Yn yr hirdymor, byddwn yn sefydlu llwybr datblygu cwbl gysylltiol ar gyfer dynion a merched, o 14 oed hyd at rygbi proffesiynol ar lefel hŷn.
Mae Super Rygbi Cymru yn rhan allweddol o'r system rygbi elît. Mae'n gystadleuaeth lled-broffesiynol sy'n chwarae rhan annatod yn y system datblygu talent ar gyfer dyfodol rygbi Cymru.
Mae deg tîm presennol Super Rygbi Cymru – Aberafan, Pen-y-bont, Clwb Rygbi Caerdydd, Cwins Caerfyrddin, Glynebwy, Llanymddyfri, Casnewydd, Pont-y-pŵl, Clwb Rygbi Abertawe ac RGC (Rygbi Gogledd Cymru) - wedi'u gwreiddio yn etifeddiaeth rygbi a chadarnleoedd traddodiadol y gamp.
Ar hyn o bryd, mae URC yn ymgysylltu â chlybiau a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu system hirdymor, gydlynol, lle mae Super Rygbi Cymru yn darparu pont hanfodol rhwng ein llwybr datblygu talent a rygbi proffesiynol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym yn adolygu'n weithredol nifer y timau yn Super Rygbi Cymru a sut maent yn cysylltu â'r 12 Canolfan Datblygu Chwaraewyr arfaethedig.
Yn bwysig, rydym am sicrhau bod ardaloedd sydd â hanes cryf o gynhyrchu talent yn cael eu cynrychioli'n briodol mewn unrhyw ehangiad yn y dyfodol.
HERIAU AR Y CAE AC ODDI ARNO

Mae perfformiadau clybiau Cymru wedi llithro'n sylweddol ac mae hynny, heb amheuaeth, wedi cael ei adlewyrchu yn nifer y cefnogwyr sy'n mynd i'r meysydd.
Mae'n timau proffesiynol yn ennill 1 o bob tair gêm yn eu cystadlaethau arferol. Wrth ddileu'r gemau yn erbyn ei gilydd – dim ond 1 o bob 4 gêm y mae'r clybiau Cymreig yn eu hennill.
Ers sefydlu'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn 2021, does dim un o dimau Cymru wedi mynd ymhellach na Rownd yr Wyth Olaf.

Fel arfer, dim ond un o'n timau syn cyrraedd y Gemau Ail Gyfle.
Wedi cyfnod o gymharu’n ffafriol gyda gwledydd fel Iwerddon a’r Alban, mae torfeydd clybiau proffesiynol Cymru bellach yn cymharu’n anffafriol ers bron i 20 mlynedd bellach. Does dim twf ac rydym yn llithro y tu ôl i wledydd eraill.
Mae clybiau Cymru’n ei chael hi’n anodd cystadlu yn yr hinsawdd economaidd presennol. Heb welliant mewn perfformiadau – parhau fydd y drefn honno.
Mae crynhoi talent mewn llai o dimau proffesiynol cystadleuol i ddynion yn creu gwell cydlyniad a dealltwriaeth, dewisiadau mwy cyson a safon uwch o rygbi o wythnos i wythnos – gan gyfrannu'n uniongyrchol at gryfder y carfanau cenedlaethol.
Tîm yn y dwyrain, un yn y gorllewin ac un arall yn y brifddinas.
Bydd gwaith yn dechrau’n fuan gyda’r clybiau proffesiynol presennol â’r nod o lunio’r model trwyddedu yn y dyfodol.
Cytuno ar ofynion y drwydded newydd.
BETH MAE’N EI OLYGU
Mae rygbi Cymru yn ceisio gweithredu newid trawsnewidiol a systemig wrth geisio gwireddu uchelgeisiau strategaeth 'Cymru’n Un'. Ni allwn laesu dwylo a gobeithio y bydd ein system rygbi elît yn dechrau adlewyrchu ein hangerdd a'n brwdfrydedd diamheuol dros y gêm. Nid ni yw'r unig genedl rygbi sy'n asesu'r sefyllfa yn ystod y cyfnod heriol hwn. Ond mae angen i ni fod yn ddewr os ydym am ddod o'r cyfnod anodd hwn yn gryf a chadarn.
Bydd newid y model presennol yn golygu canolbwyntio’n talent mewn llai o dimau.
Bwriad hyn yw sicrhau mai chwaraewyr sy’n gymwys i gynrychioli Cymru fydd y rhanfwyaf o aelodau’n carfanau. Tramorwyr o’r safon uchaf fydd gweddill ein carfanau wedi hynny. Bydd y drefn newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd chwarae i dalentau Cymreig. Y bwriad hefyd yw creu gwir gyfleoedd i glybiau Cymru ffynnu ar y lefel uchaf a chystadlu am wobrau’n y Cynghrair a’r Cwpanau.
Wrth wneud hynny, bydd y chwaraewyr yn dod i arfer â chael eu profi dan bwysau ac amodau perfformiad elît.

Bydd y llwybr datblygu chwaraewyr yn cael ei ddiweddaru a’i gefnogi gan gystadlaethau o safon.
Mae Super Rygbi Cymru eisoes yn cynnig rygbi domestig o safon a chynnydd sylweddol yn y cyfleoedd chwarae.
Bydd system dyraniad chwaraewyr sydd wedi ei lunio’n ofalus yn ganolog i’r datblygiad pellach hwn, gan sicrhau bod doniau addawol yn cael eu meithrin yn yr amgylcheddau gorau a mwyaf addas ar bwyntiau penodol o’u taith.

Nid yw’n timau proffesiynol yng nghamp y dynion yn sicrhau’r llwyddiant y mae’r cefnogwyr yn dyheu amdano.
Mae llwyddiant y perfformiadau wedi llithro’n sylweddol dros gyfnod o ddeng mlynedd a mwy. Yn ystod y tymhorau diweddar, ar gyfartaledd, dim ond un gêm ym mhob tair, y mae’r timau Cymreig wedi eu hennill. Wrth anghofio am y gemau darbi Cymreig, mae’r gyfradd honno’n disgyn i bron i un fuddugoliaeth yn unig ym mhob pedair gêm.
O ganlyniad mae cyfartaledd y torfeydd wedi disgyn yn sylweddol ac wedi disgyn y tu ôl i wledydd eraill. Mae cefnogwyr eisiau gweld eu timau yn ennill a nid yw’r system ar hyn o bryd yn sicrhau bod hynny’n digwydd.
Mae ail-drefnu system ein gêm broffesiynol ar gyfer y dynion yn mynd i gynnig gwell cyfle i’n timau fod yn gystadleuol ac yn gyson wrth geisio cyrraedd gemau ail-gyfle eu gwahanol gystadlaethau.
Bydd cyflawni hynny yn golygu y bydd mwy o gemau allweddol a mawr yn cael eu chwarae yma yng Nghymru, fydd yn naturiol yn denu mwy o gefnogwyr i’w gwylio.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi amlinellu’n ddiweddar ei brif feini prawf ar gyfer partneriaethau â sefydliadau masnachol a darparwyr allanol sy’n dymuno cyfrannu’n gadarnhaol at ddyfodol rygbi Cymru. Yn benodol, rhaid i unrhyw bartneriaethau o’r fath:
gryfhau clybiau, ysgolion a chymunedau yn hytrach na chreu strwythurau eraill y tu hwnt i waith yr Undeb
cefnogi a chryfhau’r llwybrau datblygu cenedlaethol i chwaraewyr
osgoi rhwystrau ariannol sy’n atal pobl rhag cymryd rhan
helpu i ddatblygu rygbi merched a bechgyn drwy hyfforddiant o safon sy’n briodol i’w hoedran, darpariaeth ddyfarnu addas a chefnogaeth i glybiau
diogelu lles chwaraewyr a chynnal safonau diogelu
cyd-fynd â strategaeth a threfniadau llywodraethu Undeb Rygbi Cymru
Mae’r Undeb o’r farn bod amcanion ei strategaeth Cymru’n Un yn cyd-fynd â chyfrifoldebau cymdeithasol ei bartneriaid masnachol presennol a darpar bartneriaid y dyfodol.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros y flwyddyn ddiwethaf wrth weithio tuag at wireddu uchelgeisiau strategaeth ‘Cymru’n Un’ – fydd yn sicrhau bod llwyddiant cynaliadwy’n perthyn i rygbi Cymru ar bob lefel. Rydym wedi ceisio rhannu’r wybodaeth berthnasol ddiweddaraf gyda’n rhanddeiliaid a’r cyhoedd am ein penderfyniadau a’r rhesymau am wneud y penderfyniadau hynny. Rydym bellach yn gallu rhannu gwybodaeth ychwanegol a rhesymeg y penderfyniadau yma mewn un lle.
Yn ystod haf 2025, cynhaliodd Undeb Rygbi Cymru ymgynghoriad eang a thrylwyr.
Cynhaliwyd cyfanswm o dros 30 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â rhanddeiliaid allweddol ar draws y gamp a chafwyd dros 7,000 o ymatebion i arolwg cyhoeddus.
Cawsom adborth cryf a chyson bod angen newid, a bod y model presennol o bedwar clwb ddim yn gynaliadwy o safbwynt eu perfformiadau.
Daeth y model tri chlwb i’r amlwg fel y cydbwysedd mwyaf cyfrifol rhwng uchelgais a sefydlogrwydd.

Roedd ymgynghoriad Medi 2025 yn edrych, ymhlith pethau eraill, ar y newidiadau oedd angen eu gwneud i’r model presennol o bedwar clwb proffesiynol gyda chyllid cyfartal. O ystyried sefyllfa ariannol y pedwar clwb a’r Undeb ei hun, nid yw’r model hwn bellach yn gynaliadwy y tu hwnt i 2028.
Y model delfrydol a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad, oedd cael dau dîm proffesiynol ar gyfer y dynion. Ystyriwyd y model yma gan hefyd edrych ar dri phosibilrwydd arall (pedwar clwb â chyllid anghyfartal, tri chlwb â chyllid cyfartal, a thri chlwb â chyllid anghyfartal).
Roedd cytundeb a chonsensws nad yw’r model presennol o bedwar clwb yn gynaliadwy yn ariannol ac nad yw’n cyflawni ei amcanion cystal ag y dylai. Nid oedd unrhyw grŵp o blaid cynnal y sefyllfa bresennol.
Ymhlith chwaraewyr, clybiau a chefnogwyr, roedd gwrthwynebiad cryf i leihau nifer y clybiau i ddau, gyda’r adborth yn cadarnhau mai’r prif ofidiau oedd peryglu hunaniaeth ranbarthol, llwybrau datblygu chwaraewyr a chysylltiad gyda’r cefnogwyr.
Ystyriwyd model tri chlwb yn gyfaddawd - fyddai’n lleihau’r aflonyddwch a’r ansicrwydd fyddai ynghlwm â’r broses o symud i ddau glwb. Teimlwyd hefyd y byddai cyfaddawdu ar dri thîm yn cryfhau dyfnder cyffredinol y carfanau. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau o hyd os all y model yma sicrhau’r amodau gwirioneddol gystadleuol sydd eu hangen ar ein timau. Mae’r amheuaeth hefyd yn parhau os yw’r newid yma’n ateb yr holl drafferthion a heriau ariannol sy’n wynebu’r gêm elît yng Nghymru.
Ymhlith cyn-chwaraewyr ac arbenigwyr, roedd mwy o barodrwydd i ystyried y posibilrwydd o gyfuno clybiau presennol, ar yr amod bod y broses yn cael ei rheoli’n ofalus ac yn cynnwys gwir addasu a diwygio.
Trafodwyd modelau hybrid hefyd, megis system “dau a dau” (yn cynnwys dau dîm elît a dau dîm datblygu), ond credwyd y byddai modelau o’r math yma’n arbennig o heriol i’w gweithredu.
Yn ogystal â’r adborth o’r ymgynghoriad, derbyniodd Undeb Rygbi Cymru gyngor annibynnol am nifer y clybiau proffesiynol (dynion) fyddai’n addas o safbwynt perfformiad. Bu’r Undeb hefyd yn casglu gwybodaeth berthnasol wrth geisio ateb y cwestiwn am leoliadiadau mwyaf addas y clybiau proffesiynol yn y dyfodol.
Ar ôl gwrando ar yr adborth ac ystyried y wybodaeth ychwanegol, cyhoeddwyd ym mis Hydref 2025 y byddai trwyddedau’n cael eu dyfarnu i dri thîm elît i ddynion - fyddai’n derbyn cyllid cyfartal - gyda’r trwyddedau hynny’n cael eu cynnig i glwb yn y brifddinas, clwb yn y gorllewin a chlwb yn y dwyrain.
Yn dilyn penderfyniad Hydref 2025, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru brofi’r data a goblygiadau y penderfyniad o safbwynt lleoliadau’r tri thîm proffesiynol yn y dyfodol.
Cysylltwyd â chwmni Keystone, cwmni sy’n ymgynghori ar faterion economaidd, strategol a thechnolegol i gasglu a dadansoddi y data perthnasol oedd ar gael o safbwynt lleoliadau mwyaf addas y tri thîm proffesiynol yn y dyfodol. Cyflwynwyd y casgliadau ac unrhyw themâu perthnasol eraill oedd wedi codi o’u gwaith er mwyn i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru ystyried y casgliadau hynny.
Roedd eu gwaith yn cynnwys asesu y pedwar clwb proffesiynol presennol yng nghyd-destun chwe nod allweddol y Strategaeth ‘Cymru’n Un’.
Sef:
poblogaeth a hygyrchedd
îs-adeiledd rygbi
cynaliadwyedd ariannol
llwybrau datblygu chwaraewyr
perfformiad (chwaraeon)
cefnogaeth a threftadaeth
Wedi hynny,fe osododd yr Undeb bwyslais ychwanegol ar ddau factor sydd yn llai tebygol o newid o ganlyniad i’r broses drwyddedu – sef poblogaeth a hygyrchedd ac îs-adeiledd rygbi. Gosodwyd llai o bwyslais ar ffactorau sy’n fwy tebygol o newid yn y dyfodol, sef cynaliadwyedd ariannol, llwybrau datblygu chwaraewyr a pherfformiad chwaraeon.
Ystyriwyd y mater gan Fwrdd Undeb Rygbi Cymru ym mis Gorffennaf 2026 a chadarnhawyd y penderfyniad blaenorol i gynnig tri thrwydded i dimau yn nwyrain Cymru, yn y brifddinas ac yng ngorllewin Cymru. Cytunwyd hefyd y byddai’r trwyddedau yn y dwyrain a’r brifddinas yn cael eu cynnig i’r clybiau proffesiynol presennol – yn amodol ar dderbyn telerau’r fframwaith drwyddedu newydd.
Mae arweinwyr Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn cyfarfod â chlybiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill ers dechrau tymor 2026/27 a bydd y cysylltiad uniongyrchol hwnnw yn parhau hyd at ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd 2026. Yn fuan y mis canlynol, bydd holl brif randdeiliaid y gêm broffesiynol ar gyfer y dynion yn dod at ei gilydd ar gyfer cynhadledd arbennig i drafod ‘Cyflwr y Gêm’. Bydd hyny’n gyfle gwych i bawb ddysgu a deall yr heriau sy’n wynebu’r gamp yng Nghymru ac yng ngweddill y byd yn well.
Ym mis Ionawr 2027 bydd cyfres o weithdai manwl yn cael eu cynnal er mwyn penderfynu fframwaith proses cyflwyno’r trwyddedau newydd.
Bydd y rhain yn cael eu hwyluso’n annibynnol a’r dasg allweddol gyntaf fydd diffinio nodweddion clybiau llwyddiannus yn y dyfodol cyn cynllunio egwyddorion y trwyddedau newydd.
Y cam wedi hynny fydd adolygu ac asesu nifer fechan o fodelau a fframweithiau ymarferol all arwain at lwyddiant.
Fe ddaw’r broses i ben gyda gweithdy fydd yn profi goblygiadau ymarferol cyflwyno’r fframwaith drwyddedu newydd.

Ym mis Mawrth 2027 bydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru’n ystyried y gwahanol opsiynau ar gyfer gofynion y drwydded.
Unwaith i hynny gael ei gadarnhau – bydd y broses newydd yn cael ei gweithredu. Y nod fydd gweithredu’n gyflym ac effeithiol er mwyn cadarnhau trefniadau trwyddedu’r dyfodol a’r cynlluniau pontio perthnasol. Y bwriad yw cwblhau’r broses o gadarnhau trwyddedau’r clybiau proffesiynol erbyn diwedd mis Mehefin 2027.
Bydd hyn yn lleihau’r ansicrwydd i chwaraewyr, staff, buddsoddwyr, noddwyr a chefnogwyr gan osgoi cyfnodau hirfaith heb eglurder am statws eu clybiau’n y dyfodol.
Bydd hynny hefyd yn caniatáu a sicrhau cyfnod o flwyddyn lawn ar gyfer y newid mawr wrth edrych ymlaen at dymor 2028/29.
Penderfyniadau allweddol
Mae rygbi Cymru wedi trafod newid y gêm broffesiynol i ddynion ers blynyddoedd – ond heb weithredu, tan nawr. Byddai newid dim yn haws ond mae gwneud y newidiadau yma’n angenrheidiol.
Ar ddechrau'r ymgynghoriad, a oedd yn canolbwyntio ar rygbi elitaidd yng Nghymru gan gynnwys tîm cenedlaethol dynion a merched ym mhob oed, timau proffesiynol dynion a merched, ac academïau a chanolfannau datblygu dynion a merched, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ddogfen gynghori gynhwysfawr. Gellir ei darllen yn llawn yma.
Fe ddadansoddod ac fe drafododd Fwrdd Undeb Rygbi Cymru yr arolwg ar gyfer y rhanddeiliaid a’r cyhoedd – yr arolwg mwyaf o’i fath yn hanes chwaraeon Cymru. Mae modd darllen canlyniadau’r arolwg hwnnw yma:
Ym mis Hydref 2025, yn dilyn trafodaethau ac ymgynghori helaeth, cyhoeddwyd bod Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu mabwysiadu cynllun o dri thrwydded ar gyfer y timau proffesiynol Cymreig, gydag un i’w leoli’n y Brifddinas, un arall yn y dwyrain a’r drydedd yn y gorllewin. Mae mwy o wybodaeth am y model newydd amlinellwyd yn y ddogfen ‘Y Ffordd Ymlaen’ i’w gael yma:
Ym mis Mehefin 2026, cyfarwyddwyd yr arbenigwyr annibynnol Keystone, i asesu’r ffactorau daearyddol allweddol a pherthnasol yng nghyd-destun y tri thrwydded newydd. Mae’r adroddiad cyflawn hwnnw, oni bai am un dudalen sy’n cynnwys data personol sydd wedi ei ddileu, i’w gael yma:
Wedi i Fwrdd yr Undeb ystyried casgliadau a chanfyddiadau Keystone, penderfynwyd cadarnhau penderfyniad gwreiddiol Undeb Rygbi Cymru i fwrw ymlaen gyda’r cynllun i gynnig un drwydded yn y Brifddinas, un arall yn y dwyrain ac un hefyd yn y gorllewin. Gwnaed y penderfyniad hefyd mai clybiau presennol fyddai’n cael cynnig y trwyddedau newydd – ac felly gwnaed y cynnig hwnnw i Rygbi Caerdydd yn y Brifddinas a’r Dreigiau’n y dwyrain. Gallwch ddarllen trosolwg am y penderfyniadau hynny yma:
Cyfarfodydd wyneb yn wyneb â theulu rygbi Cymru mewn cymunedau ledled y wlad.
Bydd pawb sy'n ymwneud â gweinyddu’r gamp broffesiynol i ddynion yn dod at ei gilydd i ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu'r gamp - yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Gweithdai penodol i randdeiliaid rygbi proffesiynol gyda'r nod o lunio'r egwyddorion a'r meini prawf terfynol ar gyfer y tair trwydded broffesiynol newydd.
Yn dilyn datblygu'r fframwaith trwyddedu newydd, bydd Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn adolygu'r model sydd wedi ei argymell ac yn penderfynu ar y camau nesaf.
Unwaith y caiff ei gymeradwyo, bydd y broses newydd o ddyfarnu trwyddedau yn dechrau. Mae’n allweddol bod elfen hon y broses yn digwydd yn effeithiol a chyflym er mwyn sicrhau bod trefniadau allweddol yn eu lle er mwy pontio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.
Bydd y model tri-thîm newydd yn cael ei gyhoeddi flwyddyn lawn cyn I’r newid ddigwydd. Bydd hyn yn lleihau ansicrwydd i chwaraewyr, staff, buddsoddwyr, noddwyr a chefnogwyr.
Bydd clybiau proffesiynol y dynion yn y dwyrain, y brifddinas a'r gorllewin yn dechrau cystadlu yn nhymor rygbi 2028/29.
Bydd Undeb Rygbi Cymru yn adolygu'r model gweithredu newydd cyn dechrau tymor 2029/30. Bydd hyn yn rhan o'r cynllun strategol 5 mlynedd nesaf.
Rydym am gyrraedd y model tri chlwb trwy gytundeb a chonsensws. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Scarlets, y Gweilch, Rygbi Caerdydd a’r Dreigiau trwy'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol. Gan dybio bod pob un o'r pedwar tîm presennol yn dymuno cymryd rhan yn y strwythur newydd, bydd y broses o ddyfarnu trwyddedau yn digwydd yn ystod hanner cyntaf 2027.
Rydym wedi cadarnhau y bydd cyfleoedd i ymgeisio am drwydded yn cael eu cynnig i Gaerdydd a'r Dreigiau ar gyfer trwyddedau'r brifddinas a'r dwyrain - os ydynt am gymryd rhan o dan y telerau newydd. Yna bydd un drwydded ar gael yn y gorllewin – sy’n golygu gwneud penderfyniad rhwng y Scarlets a'r Gweilch.
Pam nad oes digon o arian i gynnal y model presennol?
Yn syml, mae costau cyffredinol a gwariant y clybiau proffesiynol presennol wedi cynyddu mwy na'r incwm. Dim ond tua hanner eu costau y mae eu hincwm yn ei dalu (masnachol a chynryd rhan mewn cystadlaethau). Heb gefnogaeth ariannol Undeb Rygbi Cymru a chyfraniadau gan berchnogion, nid yw'r clybiau proffesiynol yn hyfyw, gan fod incwm masnachol a chystadleuol yn talu am tua 50% o'r costau yn unig.
Roedd y modelau gwahanol ar gyfer gêm broffesiynol y dynion a ystyriwyd gan Undeb Rygbi Cymru wedi eu sefydlu yn ei ymgynghoriad 2025 ac mae’r ystyriaethau a gododd o ran lleoliad y tair trwydded ymlaen yn egluro yma ymhellach. Mae’r penderfyniadau a wnaed hyd yn hyn ynghylch trefniadau o’r fath wedi bod yn seiliedig ar yr wybodaeth a oedd ar gael i’r Undeb ar yr amser priodol ac mae’r Undeb yn cadw'r hawl i ailasesu materion pe bai datblygiadau newydd yn codi.
Mae contractau chwaraewyr wedi'u diogelu. Mae'r holl gontractau chwaraewyr presennol wedi'u gwarantu gan Undeb Rygbi Cymru i helpu cadw'r dalent gorau Cymreig gartref.
Bydd y tri thrwyddedwyr newydd yn rhedeg sgwadiau mwy, lan at 45 o chwaraewyr, gyda mwy o gefnogaeth oddi wrth y cae.
Mae'r system ar hyn o bryd yn cynnwys dros 30 o chwaraewyr nad ydynt â chymhwyster Cymreig. Bydd y nifer honno'n lleihau, ond bydd dal cyfle i ddewis chwaraewyr arwyddocaol nad ydynt â chymwys i Gymru sydd yn ychwanegu gwerth mwyaf.
Mae gogledd Cymru yn parhau i fod yn bwysig i system rygbi genedlaethol. Mae'r gêm broffesiynol i ddynion wedi'i lleoli yn ne Cymru, ond mae Rygbi Gogledd Cymru – sydd â’u cartref ym Mae Colwyn - yn aelod gwreiddiol o Super Rygbi Cymru. Mae gan glybiau ledled y gogledd rôl bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu chwaraewyr ifanc, ac maent yn parhau i gael eu cefnogi drwy ein buddsoddiadau cymunedol.
EIN HYMRWYMIAD CYHOEDDUS
Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol wrth i'r broses drwyddedu ddatblygu.